Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(123)v5

 

<AI1>

Teyrngedau er cof am y Farwnes Thatcher

</AI1>

<AI2>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

Gweld y cwestiynau

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

Cwestiynau Brys

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr achosion presennol o’r frech goch yn ne-orllewin Cymru?

 

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith ar y diwydiant amaeth o gau safle prosesu cig Vion ar Ynys Môn?

 

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i helpu ffermwyr defaid yr ucheldir yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan y tywydd oer difrifol?

 

</AI3>

<AI4>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) (Tudalennau 4 - 6)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI4>

<AI5>

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Maes Awyr Caerdydd (30 munud) 

Dogfennau Ategol
York Aviation – Effaith Economaidd Maes Awyr Caerdydd  -  Saesneg yn unig
Arup: Gwerth a Gwerth am Arian - Saesneg yn unig)
M&G Barry Consulting - y Cyd-destun Strategol Rhanbarthol - Saesneg yn unig)

 

</AI5>

<AI6>

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Gyrfa Cymru (30 munud)

</AI6>

<AI7>

5. Datganiad gan y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd - i’w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig 

</AI7>

<AI8>

6. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 - Gohiriwyd 

</AI8>

<AI9>

7. Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 (15 munud) 

NDM5201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol:
Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 – Saesneg yn unig
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI9>

<AI10>

8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd (15 munud) 

NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol:
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/childrenandfamilies.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

</AI10>

<AI11>

9. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (60 munud) 

NDM5197 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Tachwedd 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymundeau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol:
Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Adroddiad y  Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
 

</AI11>

<AI12>

10. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (15 munud) 

NDM5198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI12>

<AI13>

11. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (90 munud) 

NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Gosodwyd y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol :
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI13>

<AI14>

12. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (5 munud) 

NDM5200 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trawsplannu Dynol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.  

</AI14>

<AI15>

Cynnig i ethol Aelod a Chadeirydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

NDM5207 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Gwyn Price (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mak Drakeford (Llafur Cymru), a;

2. Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

</AI15>

<AI16>

Cyfnod Pleidleisio

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:00, Dydd Mercher, 17 Ebrill 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>